Cynnig i ddiwygio Atodlen 1 i Fesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) (2010)

 

Nodyn cefndir ar gyfer Aelodau'r Cynulliad

 

“Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag adran 5(1) o Fesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010:

 

Yn penderfynu bod Atodlen 1 i Fesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010 yn cael ei diwygio fel nad yw'r swyddi na'r disgrifiadau canlynol o unigolion bellach wedi eu hanghymhwyso o aelodaeth o Fwrdd Taliadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

a)   Aelod o Dŷ'r Arglwyddi;

 

b)   Unigolyn a oedd yn aelod o’r naill neu’r llall o'r paneli a benodwyd gan Gomisiwn y Cynulliad i adolygu cyflogau a lwfansau Aelodau Cynulliad yn unol â phenderfyniadau Comisiwn y Cynulliad dyddiedig 4 Gorffennaf 2007 ac 8 Mai 2008.”

 

Mae'r Mesur yn sefydlu'r Bwrdd Taliadau annibynnol sy'n gyfrifol am bennu taliadau a lwfansau Aelodau’r Cynulliad.  

 

Mae lle gwag ar y Bwrdd Taliadau yn dilyn ymddiswyddiad y cyn Gadeirydd, Syr George Reid. 

 

Mae Atodlen 1 i'r Mesur yn gwneud darpariaeth ar gyfer penodi aelodau i'r Bwrdd Taliadau ac mae'n pennu meini prawf cymhwystra. Ar hyn o bryd, mae'r rhestr o'r rhai sydd wedi eu hanghymhwyso rhag bod yn aelodau o'r Bwrdd yn cynnwys Aelodau'r Cynulliad, Senedd yr Alban, Senedd Gogledd Iwerddon, Senedd Ewrop, Tŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi. Mae personau a oedd yn aelodau o’r naill neu’r llall o'r paneli a benodwyd gan Gomisiwn y Cynulliad i adolygu cyflogau a lwfansau Aelodau Cynulliad, yn unol â phenderfyniadau Comisiwn y Cynulliad dyddiedig 4 Gorffennaf 2007 ac 8 Mai 2008, hefyd wedi eu hanghymwyso.

 

Bu'r rhestr hon o bersonau anghymwys yn faen tramgwydd sylweddol o ran dod o hyd i ymgeiswyr cymwys sydd â'r amrywiaeth briodol o brofiad a sgiliau personol.

 

Mae'r Mesur yn gwneud darpariaeth i addasu'r Atodlen sy'n rhestru'r personau hynny sy'n anghymwys i fod yn aelodau o'r Bwrdd. Os bydd y Cynulliad yn penderfynu gwneud newidiadau i'r Atodlen mae'n ofynnol, yn ôl y Mesur, i'r Cwnsler Cyffredinol wneud Gorchymyn i'r perwyl hwnnw. Rhaid i'r Gorchymyn newid yr Atodlen yn y modd y penderfynodd y Cynulliad, a dim ond yn y modd hwnnw;  mewn geiriau eraill nid oes gan y Cwnsler Cyffredinol ddisgresiwn i wneud newidiadau eraill i'r darpariaethau anghymhwyso.

 

Yn y cynnig hwn, mae Comisiwn y Cynulliad yn cynnig bod Atodlen 1 i'r Mesur yn cael ei diwygio fel bod mwy o ymgeiswyr â phrofiad priodol i ddewis o'u plith; yn bennaf drwy godi'r gwaharddiad ar aelodau Tŷ'r Arglwyddi rhag gwasanaethu ar y Bwrdd.  

 

Yn unol ag Atodlen 2 i'r Mesur rhaid i Glerc y Cynulliad wneud trefniadau ar gyfer recriwtio a phenodi aelodau i'r Bwrdd Taliadau. Yn y broses honno, bydd yn ei gwneud yn glir bod croeso i Aelodau Senedd Ewrop, Tŷ'r Cyffredin a'r deddfwrfeydd datganoledig eraill ymgeisio, ond y byddai’n rhaid iddynt, pe byddai eu cais yn llwyddiannus, adael y ddeddfwrfa berthnasol cyn dod yn aelodau o'r Bwrdd. Bydd croeso hefyd, wrth gwrs, i geisiadau gan bersonau na fuont yn aelodau o unrhyw ddeddfwrfa yn y DU, neu Senedd Ewrop.

 

Nid oes bwriad yn y cynnig i godi'r gwaharddiad ar Aelodau'r Cynulliad rhag bod yn aelodau o'r Bwrdd Taliadau. 

 

 

Mawrth 2014